Cyfri'r GeifrOes gafr eto? Oes heb ei godro? Ar y creigiau geirwon Mae’r hen afr yn crwydro. Gafr wen, wen, wen. Ie finwen, finwen, finwen. Foel gynffonwen, foel gynffonwen, Ystlys wen a chynffon wen, wen, wen. Gafr goch, goch, goch. Ie fingoch, fingoch, fingoch. Foel gynffongoch, foel gynffongoch, Ystlys goch a chynffon goch, goch, goch. Gafr las, las, las. Ie finlas, finlas, fin las. Foel gynffonlas, foel gynffonlas, Ystlys las a chynffon las, las, las. Gafr ddu, ddu, ddu. Ie finddu, finddu, finddu. Foel gynffonddu, foel gynffonddu, Ystlys ddu a chynffon ddu, ddu, ddu. Gafr binc, binc, binc. Ie fin binc, fin binc, fin binc. Foel gynffonbinc, foel gynffonbinc, Ystlys binc a chynffon binc, binc, binc.